Golygfeydd gwych dros Benrhyn Gŵyr a Bae Caerfyrddin
Mae Porth Tywyn yn cynnig cymysgedd perffaith o gyfleusterau hamdden mewn 14 milltir i barcdir wedi’i dirweddu, ac mae’n ganolfan ddelfrydol ar gyfer crwydro arfordir De a Gorllewin Cymru.
Mae’n cynnig golygfeydd cofiadwy o Benrhyn Gŵyr a Bae Caerfyrddin, ac mae o fewn cyrraedd rhwydd i’n harfordir byd enwog.
Mae arian wedi’i fuddsoddi mewn seilwaith a thrafnidiaeth i wneud yr ardal yn fwy hygyrch ac erbyn hyn mae’n darparu mynediad perffaith i Benrhyn Pen-bre.
Mae’r cyfleoedd sydd ar gael ym Mhorth Tywyn yn amrywiol – siopa, hamdden, masnachol, twristiaeth – y cyfan yn eistedd ochr yn ochr yn y dref glan môr hon. A hithau mewn lleoliad delfrydol mewn mwy nag un ffordd, gall Porth Tywyn gynnig enillion da i’r buddsoddwr craff a safle yn un o’r ardaloedd mwyaf addawol yng ngwledydd Prydain.
Am fwy or wybodaeth ar y datblygiadau diweddaraf a'r cyleoedd sydd ar gael ym Mhorth Tywyn, cliciwch yma