Discover more

Ymgynghoriad cyn gwneud cais ar gyfer y bwriad i ddatblygu gwesty 120 gwely gyda maes parcio cysylltiedig, ffyrdd mynediad, gwaith tirweddu a gwaith seilwaith.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (yr Ymgeisydd), gyda chefnogaeth Arup, yn cynnal ymgynghoriad statudol 28 diwrnod ar gynigion ar gyfer adeiladu gwesty 120 gwely a gwaith cysylltiedig ar dir i'r gorllewin o Rodfa Nicklaus, Machynys, Llanelli.

Fe fydd yr ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 9am ar 28 Hydref tan 11.59pm ar 25 Tachwedd 2024.

Bydd sylwadau'n cael eu hadolygu a'u hystyried gan yr Ymgeisydd cyn i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol (gyda'r holl faterion a gadwyd yn ôl) gael ei gwblhau a'i gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (Cyngor Sir Caerfyrddin). Bwriedir i hyn ddigwydd yng Ngwanwyn 2025.

Gellir lawrlwytho'r dogfennau ategol ar gyfer y broses ymgynghori drwy'r dolenni isod.